Cysylltu
efo Ni
Ysgol Pant Pastynog
Prion
Denbigh
LL16 4SG
01745 890331
@YsgolPantPastynog
Ysgol Pant Pastynog © 2025
Website designed and maintained by H G Web Designs
Ysgol
Pant Pastynog
'Parchu pawb
a phopeth'
Clwb Brecwast
Clwb Brecwast
Miss Elin a Mr Jones sy’n arwain y Clwb Brecwast.
Mae’r Clwb yn cael ei gynnal bob bore rhwng 8:00yb
a 8:35yb yn neuadd yr ysgol. Gweinir brecwast
iachus gan gynnwys tôst, grawnfwydydd, sudd
ffrwythau ac iogwrt. Cofiwch gysylltu gyda’r Ysgol am
wybodaeth pellach, neu os ydych eisiau cofrestru
eich plentyn/plant.
Cinio Ysgol
Cinio Ysgol
Darperir cinio i unrhyw blentyn sy’n dymuno hynny.
Rydym gallu darparu ar gyfer plant ag alergeddau.
Gellir dod â brechdanau i’r ysgol, ond ni chaniateir
diod ‘ffisi’ na fferins yn y pecyn bwyd gan ein bod yn
annog i bawb ddod a pecyn bwyd iach. Cost y cinio
yw £2.50 y dydd, £12.50 yr wythnos.
Cliciwch ar y linc i fwydlen Sir Ddinbych -
https://denbighshireschoolmeals.co.uk
Cynllun Bwyta’n Iach: Mae llawer o dystiolaeth i
gefnogi'r farn bod diet cytbwys yn cael effaith
uniongyrchol ar iechyd. Yn unol â hyn, rydym yn
ceisio hyrwyddo'r pwysigrwydd o fwyta'n iach.
Rydym yn annog i'r plant i beidio â dod â fferins,
creision, bisgedi, cacen, siocled i'w fwyta yn ystod
amser chwarae. Yn hytrach, gellid prynu ffrwyth yn
yr ysgol - £1 i blant Cyfnod Sylfaen a £1.25 i blant
CA2, neu ddod â ffrwyth o adre. Mae peiriant dŵr
oer yn yr ysgol a gofynnwn i bob plentyn ddod â
photel i'r ysgol yn ddyddiol.
Prydau ysgol am ddim i blant Ysgolion Cynradd
Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn
cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Mae'r
ymrwymiad hwn mewn ymateb i'r pwysau cynyddol
o ran costau byw ar deuluoedd a'n huchelgeisiau o
fynd i'r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw
blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol. Mae
Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi'r cynllun ar
waith cyn gynted â phosibl.
Cliciwch ar y linc i weld amserlen cyflwyno'r cynllun
gan Cyngor Sir Ddinbych -
https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-
ysgolion/grantiau-ac-ariannu/prydau-ysgol-am-ddim-
cyffredinol-i-ysgolion-cynradd.aspx