Cysylltu

efo Ni

Ysgol Pant Pastynog

Prion

Denbigh

LL16 4SG

01745 890331

ysgol.pantpastynog@sirddinbych.gov.uk

@pantpastynog

Ysgol Pant Pastynog © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Gwybodaeth Llawrlwythwch y PDF canlynol: Dyddiadau’r tymor 2024-25 Amseroedd Agor a Chau’r Ysgol: Clwb Brecwast: 8.00 Gwersi bore: 8:45 – 11:45 Gwersi prynhawn: 12:45 – 3:00 Disgwylir fodd bynnag i bob plentyn gyrraedd yr ysgol rhwng 8.30 a 8.45 y bore. Gwisg Ysgol Disgwyliwn i bob disgybl wisgo gwisg ysgol. Polisi’r ysgol yw gwneud y wisg ysgol mor rhesymol ac ymarferol â phosibl. Gellir archebu’r wisg drwy’r ysgol, bydd archebion yn cael eu gwneud unwaith y flwyddyn ym mis Mai/Mehefin ond gallwch brynu eitemau o Workplace Worksafe, Rhuthun unrhyw adeg o’r flwyddyn. Crys chwys yr ysgol Crys T yr ysgol neu crys T gwyn plaen Trowsus neu sgert las tywyll wedi ei teilwra Esgidiau duon os gwelwch yn dda Yn yr haf gellir gwisgo ffrog neu shorts glas tywyll A wnewch chi sicrhau bod enw eich plentyn ar bob dilledyn ysgol yn glir. Cliciwch ar y linc yma i archebu oddi ar y wefan Workplace Worksafe.
ADDYSG GORFFOROL Bydd y plant yn gallu dod i'r ysgol yn gwisgo eu gwisg addysg gorfforol ar ddiwrnodau ble ceir gwersi ymarfer corff. Disgwyliwn iddynt wisgo crys – t gwyn a siorts du plaen. Os yw'r gwersi y tu allan caiff y plant wisgo trowsus trac du neu leggings du plaen i gadw'n gynnes. Bydd angen treinyrs os bydd y gwersi addysg gorfforol y tu allan hefyd. Cinio Ysgol Darperir cinio i unrhyw blentyn sy’n dymuno hynny. Rydym gallu darparu ar gyfer plant ag alergeddau. Gellir dod â brechdanau i’r ysgol, ond ni chaniateir diod ‘ffisi’ na fferins yn y pecyn bwyd gan ein bod yn annog i bawb ddod a pecyn bwyd iach. Cost y cinio yw £2.50 y dydd, £12.50 yr wythnos. Cliciwch ar y linc i fwydlen Sir Ddinbych - https://denbighshireschoolmeals.co.uk Cynllun Bwyta’n Iach: Mae llawer o dystiolaeth i gefnogi'r farn bod diet cytbwys yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd. Yn unol â hyn, rydym yn ceisio hyrwyddo'r pwysigrwydd o fwyta'n iach. Rydym yn annog i'r plant i beidio â dod â fferins, creision, bisgedi, cacen, siocled i'w fwyta yn ystod amser chwarae. Yn hytrach, gellid prynu ffrwyth yn yr ysgol - £1 i blant Cyfnod Sylfaen a £1.25 i blant CA2, neu ddod â ffrwyth o adre. Mae peiriant dŵr oer yn yr ysgol a gofynnwn i bob plentyn ddod â photel i'r ysgol yn ddyddiol. Prydau ysgol am ddim i blant Ysgolion Cynradd Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Mae'r ymrwymiad hwn mewn ymateb i'r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a'n huchelgeisiau o fynd i'r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi'r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl.   Cliciwch ar y linc i weld amserlen cyflwyno'r cynllun gan Cyngor Sir Ddinbych - https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac- ysgolion/grantiau-ac-ariannu/prydau-ysgol-am-ddim-cyffredinol- i-ysgolion-cynradd.aspx Gwersi Offerynnol Cynigir gwersi offerynnol i ddisgyblion Bl 3-6 yn ystod oriau ysgol. Cwmni Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych sydd yn trefnu’r gwersi. Cewch fwy o fanylion wrth glicio ar eu gwefan yma. Parent Pay Rydym yn defnyddio system ‘Parent Pay’ yma yn Ysgol Pant Pastynog i hwyluso y drefn o dalu am ginio ysgol neu ddigwyddiadau megis tripiau ysgol. Isod mae’r linc i wefan ‘Parent Pay’ ble mae yna wybodaeth pellach i chi am y system. Mae Mrs Gwenan Roberts ar gael yn y swyddfa am sgwrs ac i ateb eich cwestiynau os bydd angen mwy o fanylion neu gymorth arnoch. Dyma linc am fwy o wybodaeth. Cais am le yn yr ysgol Gwybodaeth am sut i wneud cais am le - https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/derbyn- i-ysgol/derbyn-i-ysgol.aspx Mae croeso cynnes i unrhyw ddarpar deulu ymweld â’r ysgol cyn gwneud cais am le yn swyddogol yma. Rydym yn edrych ymlaen i’ch tywys o amgylch yr ysgol gan ddangos yr hyn sydd gan Ysgol Pant Pastynog i’w gynnig. Ffurflenni Ffurflen Cais Absenoldeb Ffurflen Caniatad rhoi Meddyginiaeth Presenoldeb Llif ddarlun Presenoldeb Taflen Gwybodaeth
Gwybodaeth Llawrlwythwch y PDF canlynol: Dyddiadau’r tymor 2024-25 Amseroedd Agor a Chau’r Ysgol: Clwb Brecwast: 8.00 Gwersi bore: 8:45 – 11:45 Gwersi prynhawn: 12:45 – 3:00 Disgwylir fodd bynnag i bob plentyn gyrraedd yr ysgol rhwng 8.30 a 8.45 y bore. Gwisg Ysgol Disgwyliwn i bob disgybl wisgo gwisg ysgol. Polisi’r ysgol yw gwneud y wisg ysgol mor rhesymol ac ymarferol â phosibl. Gellir archebu’r wisg drwy’r ysgol, bydd archebion yn cael eu gwneud unwaith y flwyddyn ym mis Mai/Mehefin ond gallwch brynu eitemau o Workplace Worksafe, Rhuthun unrhyw adeg o’r flwyddyn. Crys chwys yr ysgol Crys T yr ysgol neu crys T gwyn plaen Trowsus neu sgert las tywyll wedi ei teilwra Esgidiau duon os gwelwch yn dda Yn yr haf gellir gwisgo ffrog neu shorts glas tywyll A wnewch chi sicrhau bod enw eich plentyn ar bob dilledyn ysgol yn glir. Cliciwch ar y linc yma i archebu oddi ar y wefan Workplace Worksafe.

Cysylltu

efo Ni

Ysgol Pant Pastynog

Prion

Denbigh

LL16 4SG

01745 890331

ysgol.pantpastynog@sirddinbych.gov.uk

@pantpastynog

Ysgol Pant Pastynog © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

ADDYSG GORFFOROL Bydd y plant yn gallu dod i'r ysgol yn gwisgo eu gwisg addysg gorfforol ar ddiwrnodau ble ceir gwersi ymarfer corff. Disgwyliwn iddynt wisgo crys – t gwyn a siorts du plaen. Os yw'r gwersi y tu allan caiff y plant wisgo trowsus trac du neu leggings du plaen i gadw'n gynnes. Bydd angen treinyrs os bydd y gwersi addysg gorfforol y tu allan hefyd. Cinio Ysgol Darperir cinio i unrhyw blentyn sy’n dymuno hynny. Rydym gallu darparu ar gyfer plant ag alergeddau. Gellir dod â brechdanau i’r ysgol, ond ni chaniateir diod ‘ffisi’ na fferins yn y pecyn bwyd gan ein bod yn annog i bawb ddod a pecyn bwyd iach. Cost y cinio yw £2.50 y dydd, £12.50 yr wythnos. Cliciwch ar y linc i fwydlen Sir Ddinbych - https://denbighshireschoolmeals.co.uk Cynllun Bwyta’n Iach: Mae llawer o dystiolaeth i gefnogi'r farn bod diet cytbwys yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd. Yn unol â hyn, rydym yn ceisio hyrwyddo'r pwysigrwydd o fwyta'n iach. Rydym yn annog i'r plant i beidio â dod â fferins, creision, bisgedi, cacen, siocled i'w fwyta yn ystod amser chwarae. Yn hytrach, gellid prynu ffrwyth yn yr ysgol - £1 i blant Cyfnod Sylfaen a £1.25 i blant CA2, neu ddod â ffrwyth o adre. Mae peiriant dŵr oer yn yr ysgol a gofynnwn i bob plentyn ddod â photel i'r ysgol yn ddyddiol. Prydau ysgol am ddim i blant Ysgolion Cynradd Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Mae'r ymrwymiad hwn mewn ymateb i'r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a'n huchelgeisiau o fynd i'r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi'r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl.   Cliciwch ar y linc i weld amserlen cyflwyno'r cynllun gan Cyngor Sir Ddinbych - https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac- ysgolion/grantiau-ac-ariannu/prydau-ysgol-am-ddim- cyffredinol-i-ysgolion-cynradd.aspx Gwersi Offerynnol Cynigir gwersi offerynnol i ddisgyblion Bl 3-6 yn ystod oriau ysgol. Cwmni Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych sydd yn trefnu’r gwersi. Cewch fwy o fanylion wrth glicio ar eu gwefan yma. Parent Pay Rydym yn defnyddio system ‘Parent Pay’ yma yn Ysgol Pant Pastynog i hwyluso y drefn o dalu am ginio ysgol neu ddigwyddiadau megis tripiau ysgol. Isod mae’r linc i wefan ‘Parent Pay’ ble mae yna wybodaeth pellach i chi am y system. Mae Mrs Gwenan Roberts ar gael yn y swyddfa am sgwrs ac i ateb eich cwestiynau os bydd angen mwy o fanylion neu gymorth arnoch. Dyma linc am fwy o wybodaeth. Cais am le yn yr ysgol Gwybodaeth am sut i wneud cais am le - https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac- ysgolion/derbyn-i-ysgol/derbyn-i-ysgol.aspx Mae croeso cynnes i unrhyw ddarpar deulu ymweld â’r ysgol cyn gwneud cais am le yn swyddogol yma. Rydym yn edrych ymlaen i’ch tywys o amgylch yr ysgol gan ddangos yr hyn sydd gan Ysgol Pant Pastynog i’w gynnig. Ffurflenni Ffurflen Cais Absenoldeb Ffurflen Caniatad rhoi Meddyginiaeth Presenoldeb Llif ddarlun Presenoldeb Taflen Gwybodaeth