Gwisg YsgolGwisg YsgolDisgwyliwn i bob disgybl wisgo gwisg ysgol. Polisi’r ysgol yw gwneud y wisg ysgol mor rhesymol ac ymarferol â phosibl. Gellir archebu’r wisg drwy’r ysgol, bydd archebion yn cael eu gwneud unwaith y flwyddyn ym mis Mai/Mehefin ond gallwch brynu eitemau o Workplace Worksafe, Rhuthun unrhyw adeg o’r flwyddyn. •Crys chwys yr ysgol•Crys T yr ysgol neu crys T gwyn plaen•Trowsus neu sgert las tywyll wedi ei teilwra•Esgidiau duon os gwelwch yn dda•Yn yr haf gellir gwisgo ffrog neu shorts glas tywyll•A wnewch chi sicrhau bod enw eich plentyn ar bob dilledyn ysgol yn glir. Cliciwch ar y linc yma i archebu oddi ar y wefan Workplace Worksafe.ADDYSG GORFFOROLBydd y plant yn gallu dod i'r ysgol yn gwisgo eu gwisg addysg gorfforol ar ddiwrnodau ble ceir gwersi ymarfer corff. Disgwyliwn iddynt wisgo crys – t gwyn a siorts du plaen. Os yw'r gwersi y tu allan caiff y plant wisgo trowsus trac du neu leggings du plaen i gadw'n gynnes. Bydd angen treinyrs os bydd y gwersi addysg gorfforol y tu allan hefyd.